Choose a style: Picture Background Plain Background No Style Find us on Facebook English



Hyfforddiant MiDAS i yrwyr


Beth yw MiDAS?


Cynllun Ymwybyddiaeth Gyrwyr Bysus Mini yw MiDAS, sy’n cael ei drefnu gan Gymdeithas Cludiant Cymunedol DU (CTA). Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn hybu safon asesu ac hyfforddiant gyrwyr bysus mini sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol. Mae'n gynllun sy'n seiliedig ar aelodaeth er mwyn gwella safonau gyrru a hybu diogelwch gweithredol bysus mini.

I bwy mae e’n berthnasol?


Mae MiDAS yn berthnasol i unrhyw fudiad sy’n gweithredu neu’n defnyddio bysus mini. Mae ein aelodaeth yn cynwys mudiadau bach gwirfoddol gydag un bws mini, awdurdodau lleol sy’n gofalu am flyd o fysus mini, ynghyd ag ysgolion, colegau a phrifysgolion.





 

Y ffordd mae MiDAS yn gweithredu


Mae MiDAS yn gweithredu mewn ffordd “ymdreiddiol”. Gall mudiadau sy’n aelodau enwebu pobl i gael eu hyfforddi i fod yn Asesydd/Hyfforddwr Gyrwyr (DAT) gan oruchiwylwyr hyfforddiant benodwyd gan y CTA. Medr yr Asesydd/Hyfforddwr Gyrwyr asesu gallu’r gyrwyr bysus mini eraill, a’u hyfforddi ar sut i ddefnyddior bysus mini’n ddiogel.

Gyrru I’r Safon


Bydd y gyrwyr sy’n cyflawni’r asesiad a’r hyfforddiant MiDAS yn llwyddiannus yn derbyn tystysgrif a gydnabyddir yn genedlaethol ac sy’n ddilys am bedair blynedd, ynghyd a’r dewis o dderbyn Llawlyfr Gyrwyr MiDAS cynhwysfawr. Mae ein gyrwyr yn wirfoddolwyr o’r cymunedau lleol a caiff pob un ei hyfforddi i’r safon rheoliadol MiDAS. Ariennir ein hyfforddiant MiDAS trwy grantiau o Cymunedau’n Gyntaf.

Hyfforddwyr Cymwysedig


Os oes diddordeb gennych mewn gyrru bws mini fel gwaith gwirfoddol neu fel cam tuag at waith cyflogedig – medrwn ni eich hyfforddi! Os ydych yn aelod o grŵp cymunedol ac eisiau gyrru eich aelodau neu ffrindiau am drip – medrwn ni eich hyfforddi!


Am ragor o wybodaeth...



Galwch ar 0845 020 4322 ewch i Dewis 1 neu Dewis 3 (Swyddfa) neu gadewch eich neges ar y dudalen gyswllt.